Rhyl Scout & Guide Band - Hanes


Ffurfiodd y Rhyl Scout and Guide Band yn cyntaf yn y flwyddyn 6459BC. Yn anffodus methodd yr ymgais hon am nifer o rhesymau:- Daeth ymgais arall yn y 60au, ond doedd gan Elvis dim diddordeb a nid oedd y Beatles ar gael i'r rhan fwyaf o'r cyngherddi (roedd genynt gwaith ar Dydd Sadwrn).

A felly, yn y flwyddyn 1985, hefo llawer o ffanffêr (swn cras i fod yn onest, ond roedden ni yn ifanc), ffyrfiodd y band o grwpiau scowtiaid lleol gan Jeff Johnson (ymgrymwch pan ddywedir Yr Enw). Yn 1986 pan sylweddolodd yr arweinwyr nad oedd genym llawer o talent, agorodd yr aelodaeth i'r genod lleol a daeth hefo nhw y cysyniadau newydd o Gallu Cerddorol a Synnwyr Rhythm. O gwmpas yr amser hon newidiasom o chwarae biwglau i chwarae cornedi (yn rhoi llawer mwy o nodau i'r bechyn ddifetha).

Un neu ddau cyngerdd wedyn, galwa arnom i chwarae mewn cynhyrchiad lleol 'Scoutaree 1988'. Yn y gynhyrchiad hon daethom ar draws y dyn â'r wallt mawr o'r enw Nick Coope (neu'r Bom Bom Man mewn llefydd eraill) am y tro cyntaf. Cymerodd y Beethoven presennol yma'r ddarnau doedden ni ddim mor ddrwg am chwarae, a'i ffiwsio i creu'r darn rydym nawr yn galw "The Bogeymen of Harlech". Croesodd ein llwybrau eto yn y Scoutaree y flwyddyn nesaf pan trefnwyd y Maestro darn gwreiddiol a chynnhwysodd o themau Operâu Sebon a thêm 'Ffilm 89'. Enw clyfar y ddarn hon oedd "Soap Film". Ar ôl hyn daeth Nick yn ddysgwr llawn amser.

Yn yr amser rhwng y ddau 'Scoutaree', cymerydasom rhan yn ein cystadleuaeth cyntaf ym Manceinion (cystadleuaeth Sale os dwi'n cofio'n iawn) ac ennill Troffi am y Chwythbrennau Gorau yn yr Adran Newyddian. Ein cystadleuaeth nesaf oedd yn 1991 neu 1992. Does neb yn cofio'n siwr ar ôl yfed gormod o alcohol yn 1989.

Daeth ein llwiant mawr cyntaf yn 1993 pan ennilliasom ein troffi Pencampwyr Adran cyntaf ym Manceinion a sylweddolasom bod ennill yn mwy o hwyl na colli. Y flwyddyn nesaf ym Manceinion roedd rhaid i ni symyd i fyny adran. Yn ddi-ofn, gwnaethom fel a dymunasant a, gyda ail-trefniad o "Bogeymen", llwyddianem yn yr Adran Cystadleuaeth. Y flwyddyn nesaf, 1995, oedd ein gorau hyd yma pan roedden ni yn pencampwyr Adran Cystadleuaeth ym mhob cystadleuaeth roeddem yn mynd i gyda "Oh, What a Lovely War" - y darn a ennillwyd ein troffi Pencampwyr Adran yn 1993. Hwn hefyd oedd y flwyddyn roeddem yn mynd i'r Cystadleuaeth Cenedlaethol TYMBA am y tro cyntaf, ac fe ennillasom y troffi cynghrair a gorffenasom yn ail yn y cystadleuaeth.

Yn 1996, aethom i fyny i'r Adran Pencampwriaeth gyda trefniant o cerdoriaeth Americannaidd - "New York, New York". Doedden ni ddim mor llwyddiannus yn y cystadleuthau cyntaf ac y disgwyliasem, ond pan ddaeth y Cystadleuaeth Cenedlaethol roedd yr arddangosiad yn barod ac ennilliasom y troffi Pencampwyr Adran Pencampwriaeth. Daeth trefniad newydd gan Nick Coope o'r enw "Wild West" - cymysgedd o themâu ac alawon yr Hen Gorllewin UDA - y flwyddyn nesaf, ac unwaith eto ar ôl dechrau araf ennilliasom y troffi Pencampwyr Adran Pencampwriaeth yn y Cystadleuaeth Cenedlaethol.

1998. O diar. Gyda ail-trefniad o "Oh, What a Lovely War" a oedd yn llwyddiannus hyd yn hyn, aethom ar ein ffordd i nifer o cystadleuthau. Ac wedyn ymlwybran adref eto. Yn yr Adran Cenedlaethol 'rwan, roedd y cystadleuaeth yn ANODD IAWN. Yn fyr - doedden ni ddim yn digon da. Gorffennodd y flwyddyn gyda 5ed allan o 10 yn y Cystadleuaeth Cenedlaethol - dim yn rhy ddrwg. 1999. Roedd gwaeth i dod. "New York, New York" oedd y cerddoriaeth, ac unwaith eto roeddem yn methu i wneud argraff yn y cystadleuthau, yn gorffen 6ed o 9 yn y Cystadleuaeth Cenedlaethol. Penderfynnodd TYMBA yn ei wallgofrwydd i symyd ni i lawr adran. Arhosodd rhai fandiau gwaeth na ni yn yr adran Genedlaethol. Ond dydy pwyllgor TYMBA ddim yn llygredig.

Yn ôl yn yr Adran Pencampwriaeth, roeddem yn dechrau y milleniwm newydd gyda trefniad newydd sbon gan Nick o'r enw "Classic Moments". Yn anffodus, doedd y cerdd, y fand na'r arddangosiad ddim yn barod mewn amser i'r cystadlaethau cyntaf, ac felly dechreuwyd yn hwyr yn y tymor yn y cystadleuaeth Halesowen. Unwaith eto doedd y barnwyr ddim yn hapus, a gorffenwyd yn olaf yn y Cystadleuaeth Cenedlaethol.

2001. Tro'r llanw unwaith eto. Gan ddefnyddio'r un arddangosiad a'r un cerdd, ennilliasom mewn pedwar cystadleuaeth a gorffenasom yn ail mewn pumed. Y Cystadleuaeth Cenedlaethol? Cyntaf. Doedd gen TYMBA ddim dewis. Roedd rhaid iddynt rhoi ni yn ôl yn yr Adran Cenedlaethol.

2002. Y difreiniad. Ar ôl cyfarfod flynyddol, penderfynnodd y pwyllgor gael gwared o arweini gyda rheol newydd. Cafwyd ein difreini yn y cystadleuaeth cyntaf ac ar ôl ennill yn yr apêl penderfynnod 19 o fandiau yn y cymdeithas fod y pwyllgor yn iawn i torri ei cyfansoddiad ei hyn. I gweld y cyfatebiaeth am yr apêl mewn mwy o fanylder(yn saesneg yn unig), cliciwch yma. Roed rhaid i ni adael TYMBA.

Y Dyfodol
Pwy sy'n gwybod? BYBA? Cymdeithas arall? Mae'r dyfodol yn braf - mae'r dyfodol yn oren. Neu rhywbeth.




[Cartref][Hanes] [Aelodau][Y CD] [Cerddoriaeth Cystadlu][Darluniau] [Canlyniadau][Dyddiadur] [Cysylltiau]

Cysylltiau'r Band:

BandMaster (Saesneg yn unig)
Musical Director (Saesneg yn unig)
WebMaster (Dwyieithog - rhan fwyaf o'r amser)